CYMDEITHAS OWAIN GLYNDWR

MYNEGAI

Y Gymdeithas

Amcanion y Gymdeithas

Yr hyn mae'r Gymdeithas wedi'i gyflawni

Llythr Pennal

Yr apel yn y wasg

Cylchlythr

Darlith "Owain Glyndwr a Chymru"

Erthygl Cambria : Brwydr Castell Conwy

Erthygl Cambria : Brwydr Mynydd Hyddgen

Erthygl Cambria : Brwydr Bryn Glas

 Pobl y Mileniwm

Ffurflen aelodaeth

Cardiau ar werth

Swyddogion y Gymdeithas

Llyfryddiaeth

Cymdeithasau a diddordebau tebyg

Map o Gymru

Mapiau hynafiaethol

 

Cilmeri.Com, Connections to Wales

http://www.cilmeri.com/

Wales on the Web! - Cymru ar y We!

 

Y GOFEB

Dadorchuddir cofeb briodol i Owain Glyndwr ar Fedi 16, 2000, chwe chan mlwyddiant ei wrthryfel, ym Machynlleth, yng Nghanolbarth Cymru.

Bydd yn sefyll ar dir Celtica, yn agos at leoliad ei Senedd-dy, ar safle fydd â lle i ymwelwyr ac i gynnal seremonïau coffa bychan mewn blynyddoedd i ddod. Comisynwyd Ieuan Rees, sydd ag enw da yn genedlaethol am ddylunio ac ysgrifennu cain, y gwelir ei waith yn Abaty Westminster, i ddylunio colofn syml ond mawreddog o lechen o Ogledd Cymru. Mae'r garreg newydd ei thorri allan o Chwarel y Penrhyn. Mae McAlpine's wedi rhoi y garreg yn rhad ac am ddim i'r Gymdeithas, an mae yng ngweithdy Ieuan Rees. Mae cynllun o'r gofeb o flaen yr awdudrodau cynllunio. Llythrennir englyn wedi ei ddewis mewn cystadleuaeth rhwng beirdd amlwg Cymru ar 'Talwrn y Beirdd' o dan y dyluniad mawr.

Yr ydym wedi lansio ymdrech codi arian i gyfarfod a chost y gofeb ac ysgoloriaeth academaidd fechan ar gyfer is-raddedigion yn un o golegau Prifysgol Cymru i gydnabod breuddwyd Owain o brifysgolion Gogledd a De Cymru.

Os hoffech gyfrannu at y gronfa goffa, gwnewch y sieciau'n daliedig i Gronfa Goffa Owain Glyndwr, os gwelwch yn dda, a'u danfon at y Trysorydd, Eirwyn Evans. Gallwn dderbyn sieciau mewn doleri'r U.D.; os defnyddiwch arian unrhyw wlad arall gofynnwn ichi gofio cost cyfnewid wrth benderfynu ar eich cyfraniad. 

http://www.homecomingwales2000.com

 

Y Plas, Celtica, Machynlleth

Y Plas, cartref yr arddangosfa ar y celtiaid

 

 

Gerddi Celtica

 

Y garreg newydd ei thorri allan o'r graig

 

Y garreg yng ngweithdy Ieaun Rees yn Rhydaman

Y garreg  yng ngweithdy Ieaun Rees yn Rhydaman

Cynllun cynnar o'r gofeb

Machynlleth yn 1832

Print hynafiaethol gan Henry Gastineau. Argraffwyd yn 1832.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch a jilldavs@owain-glyndwr-soc.org.uk  

Dechrau'r dudalen