CYMDEITHAS OWAIN GLYNDWR

MYNEGAI

Y Gymdeithas

Amcanion y Gymdeithas

Y gofeb

Llythr Pennal

Yr apel yn y wasg

Cylchlythr

Darlith "Owain Glyndwr a Chymru"

Erthygl Cambria : Brwydr Castell Conwy

Erthygl Cambria : Brwydr Mynydd Hyddgen

Erthygl Cambria : Brwydr Bryn Glas

 Pobl y Mileniwm

Ffurflen aelodaeth

Cardiau ar werth

Swyddogion y Gymdeithas

Llyfryddiaeth

Cymdeithasau a diddordebau tebyg

Map o Gymru

Mapiau hynafiaethol

 

Cilmeri.Com, Connections to Wales

http://www.cilmeri.com/

Wales on the Web! - Cymru ar y We!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

http://www.homecomingwales2000.com

YR HYN MAE'R GYMDEITHAS WEDI'I GYFLAWNI

 

Dadorchuddir cofeb ym Machynlleth, Sir Ceredigion, ar Fedi 16, 2000. Dewiswyd y dref am ei bod yn ganolog i Gymru gyfan ac am fod y Senedd-dy eisioes yn ffocws i'w goffau. Byddwn yn cyhoeddi dyluniad o'r gofeb, i'w dadorchuddio ym Medi 2000 (chwechanmlwyddiant dechreuad ymgyrch Owain), yn fuan. Os bydd y cynllun yn dderbyniol i Gyngor Sir Powys, codir y gofeb ar dir Y Plas, ym Machynlleth. Mae'r Cyngor Sir a Mr Tecwyn Vaughan Jones (Cyfarwyddwr Celtica) wedi bod yn gefnogol iawn. Cawsom lechen tua 14 troedfedd o uchder o Chwarel y Penrhyn, Bethesda yn rodd hael gan McAlpine Cyf. Mae'r dylunio yn nwylo Ieuan Rees sydd wedi derbyn comisiynau o America ac Awstralia; gwelir pedwar enghraifft o'i waith yn Abaty Westminster. Bydd y gofeb yn cynnwys englyn. Yng nghystadleuaeth Talwrn y Beirdd yn ddiweddar cafwyd englyn caboledig gan Dafydd Wyn Jones o Aberangell, ger Machynlleth.

Owain, tydi ywn dyhead, - Owain,

Ti piau'n harddeliad,

Piau'r her yn ein parhad

A ffrewyll ein deffroad.

Ymdrechion i ddod i hyd o'r bedd

Yn dilyn ymchwil gan Weithgor Ymchwil y gymdeithas - ac, yn enwedig, i waith dygn Tony Carter- mae awgrym cryf fod gweddillion Owain yn gorwedd ym Monnington Court, Swydd Henffordd. Datgelwyd y gyfrinach gan John Scudamore o Kentchurch Court, sydd tuad 8 fllltir o Monnington Court. Mae Mr Scudamore yn un o ddisgynyddion Owain ac mae'n debyg fod y gyfrinach wedi'i throsglwyddo trwy'r cenedlaethau. Gobeithiwn mai'r cam nesaf fydd i wneud arolwg geoffisegol o'r safle ym Monnington Straddel i geisio tystiolaeth i gadarnhau'r awgrym. Mae'n debyf fydd yr arolwg yn cymryd lle cyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynag, barn yr Athro Rees Davies yw ei fod wedi'i gladdu yn rhywle yn ei gadarnle yng Ngogledd Cymru.

Yr ydym yn lansio apêl am arian i godi'r gofeb, ac i ddiwallu amcanion eraill y gymdeithas. Derbyniasom eisoes gyfraniad o £1,000 gan y Manic Street Preachers, a mae Anthony Hopkins hefyd wedi cyfrannu yn hael. Ymhlith y cyfraniadau hael eraill, cawsom addewid o benwythnos i ddau yng Ngwesty Fferm Penbontbren yn Sir Aberteifi gan Mr a Mrs Humpreys. Mae diffr'nt records ltd, er ei bod o Lundain, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r gronfa ac maen't yn parhau i gefnogu y gymdeithas drwy ei gwaith gyda'r ieuenctid yn Nhe Cymru.

Yr ydym wedi cylchlythyru holl ysgolion Cymru i ehangu ymwybyddiaeth am Owain, ac i geisio cefnogaeth, ac eisioes mae tua dwsin wedi cyfrannu. Byddwn yn gwneud defnydd llawn o'r cyfryngau. Byddwn yn croesawu ymgyrchoedd i godi arian gan ein haelodau. Croesawn gyfraniadau oddi wrth unigolion.

Gwnaethom gais i'r Bibliotheque National ym Mharis i ddychwelyd llythyr Pennal i Gymru. Mae Rhodri Morgan newydd gyhoeddu fod y llythr a'r sel ar ei ffordd yn ol i Gymru. Cewch ei gweled yn arddangosfa y Llyfrgell Genedlaethol.

Rydym wedi gwasgu ar Mr Alun Michael ac Aelodau'r Cynulliad i ymgorffori'r elfennau

canlynol yn nyluniad adeilad newydd y Cynulliad:

(i) enwi'r brif siambr yn Siambr Owain Glyndwr;

(ii) arddangos selnod Owain mewn man amlwg yn y siambr;

(iii) ymgorffori cofeb addas (ffenestr lliw?) fel cofeb barhaol i waith arloesol Owain i sefydlu senedd Gymreig.

 

Gwnaethom gais am gyfres o stampiau yn 2004 i goffau sefydlu senedd gyntaf Cymru yn 1404, ac mae'r Swyddfa Bost yn ystyried ein cais.

Buom yn ymgyrchu am fwy o gyhoeddusrwydd ar y safleoedd sydd a chysylltiad gyda Owain Glyndwr. Fel rhan o'r ymgyrch rydym wedi gofyn i'r Arolwg Ordnans nodi safleoedd brwydrau Owain ar ei cyfres nesaf o fapiau. Mae'r AO wedi cytuno i ystyried ein cais os medrwn gyflwyno tystiolaeth ddilys ac mae'n diolch yn fawr i Dr John Davies, Llandyssul, am ei ymchwil i'r dystiolaeth.

Anfonodd ein Cadeirydd lythyrau i holl aelodau'r Cynulliad yn ceisio eu cefnogaeth i amcanion y gymdeithas. Derbyniwyd dwsin a atebion hyd yn hyn, gyda'r mwyafrif ohonynt yn gefnogol.

 

Rhoddodd y cyfryngau gryn sylw i weithgareddau'r Gymdeithas gan gynyddu diddordeb Cymru yn Owain a'i hanes. Mae llunio casgliad archifol bychan o wybodaeth a hanesion storïol ar waith, yn cynnwys hanesion teulu a gwerin gwlad. Os hoffech ychwanegu at hyn cysylltwch â Jill Davies ar : jilldavs@owain-glyndwr-soc.org.uk 

 

Gwerthfawrogir cyfraniadau at gostau'r gofeb a'r ysgoloriaeth.

Mae gwybodaeth am dâl aelodaeth a ffurfleni cais ar gael.

http://www.homecomingwales2000.com

Dechrau'r dudalen

  Top of page