Croeso i ail gylchlythyr yr haf. Er nad oedd cylchlythyr i'w gyhoeddi tan yr hydref mae hwn yn rhifyn arbennig i ddathlu dyfodiad chwechanmlwyddiant cyhoeddi Owain Glyndwr yn Dywysog Cymru ar Fedi 16,1400.
Bedd Owain Glyndwr
Mae gwaith Gweithgor Ymchwil y gymdeithas yn parhau'n ddiwyd (diolch yn arbennig i waith sylweddol Tony Carter). Datgelodd John Scudamore o Kentchurch Court yn Swydd Henffordd (un o ddisgynyddion Owain Glyndwr ) fod y gyfrinach am leoliad bedd Owain wedi'i throsglwyddo trwy'r cenedlaethau yn y teulu. Y gred yw mai ger Monnington Court, tua 8 filltir o Kentchurch Court, y claddwyd Owain. Mae adroddiad diddorol yn llyfr Chris Barber In Search of Owain Glyndwr (ISBN 1-872730-07-8) o'i gais i geisio darganfod lleoliad y bedd (tud. 159-162, 211).
Ym mis Gorffennaf gwnaeth cwmni o Gaerdydd, Terradat (UK) Ltd., arolwg geoffisegol o'r mwnt ger Monnington Court. Defnyddiwyd tair techneg geoffisegol yn yr archwiliad. Dangosodd eu hymchwil arwyddion o sylfeini adeilad hirsgwar tua 12 metr o hyd a 6 metr o led. Ni welwyd arwyddion o fedd ar y safle ond, gyda threuliad y canrifoedd, gallai olion o fedd gaei eu gwneud yn anweledig i'r offer trwy bwysau a symudiadau'r pridd. Mae'r arolwg yn datgelu digon i awgrymu y byddai gwaith pellach ar y safle yn fuddiol.
Y Gofeb
Mae pawb yn edrych ymiaen at ddatorchuddior gofeb i Owain ar Fedi 16, 2000 ar chwechanmlwyddiant dechreuad ei ymgyrch. Mae'r gwaith ar y lechen 14 troedfedd bron a gorffen. Rhodd hael gan gwmni Mc Alpine o chwarel y Penrhyn, Bethesda oedd y lechen. Mae'r cerflunydd Ieuan Rees wedi denu comisiynnau o America ac Awstraila ac mae pedair enghraifft o'i waith yn Abaty Westminster.
Byddwn yn dadorchuddior gofeb ar dir Y Plas (Celtica) rhwng 2.30 a 3.30 y.p.. Bydd aelodau yn teithio cryn bellter i ddod itr ddadorchuddiad a gobeithiwn weld nifer fawr o aelodau yno. Cynhelir Ffair Ganoloesol ym Machynlleth ar y dydd a bydd brwydrau yn cymryd lle ar lawnt Y Plas. Mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod o ysbrydolaeth a difyrwch.
Yr Apêl
Yn gyntaf, carwn ddiolch i'r aelodau am eu cyfraniadau i Gronfa'r Gofeb. Diolch i'ch haelioni chi ac eraill mae'r gymdeithas erbyn hyn yn agos at gyrraedd ei nod. Bu dwy o'n haelodau, Sybil Davies ac Olwen Roberts, yn arbennig o brysur yn cynnal nifer o weithgareddau i godi arian i gefnogi'r apêl.
Mae'n diolch yn fawr i'r aelodau a fu mor hael yn eu cefnogaeth i'r apêl. I'r aelodau sydd heb gael cyfle i gyfrannu hyd yn hyn, dyma'r cyfle olaf. Llenwch y ffurflen trosodd os gwelwch yn dda.
Swyddogion
Bydd y gymdeithas yn dathlu pedair blynedd lwyddiannus yn yr hydref a gobeithiwn sylweddoli un o'n hamcanion pan ddadorchuddir y gofeb. Mae'n amser priodol felly i ystyried dewis swyddogion newydd i arwain y gymdeithas i gyflawniadau pellach. Os hoffech wirfoddoli i ymgymryd a'r gwaith, neu os hoffech enwebu rhywun - cofiwch gael caniatad wrthi/wrtho - trosglwyddwch y manylion i Jill Davies, 'Erw Hir', Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8JD (01558 668564)
Ebost :jilldavs@owain-glyndwr-soc.org.uk
Etholir swyddogion yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y gymdeithas ym mis Hydref.
Cardiau
Mae gennym gardiau deniadol Dydd Gwyl Ddewi (rhodd gan Mr a Mrs Crouch), a chardiau lliwgar yn dangos Owain Glyndwr sy'n addas ar gyfer defnydd cyffredinol. Mae'r cardiau ar gael oddi wrth y Trysorydd (cyfeiriad isod) am £1 yr un.
Dadorchuddio'r gofeb
I hwyluso'n trefniadau byddem yn ddiolchgar os medrech anfon y bonyn ateb isod os y byddwch yn debygol o ddod i'r dadorchuddiad. Os oes gennych gysylltiad arbennig gyda hanes Owain (e.e. yn un o'i ddisgynyddion), byddai'r wybodaeth o ddiddordeb mawr i in.
Enw:
Cyfeiriad:
Cyfeiriad Ebost Rhif ffôn
Cyfraniad gwirfoddol i Gronfa Cofeb Owain Glyndwr: £
Sieciau yn daladwy i : Cymdeithas Owain Glyndwr NEU 'Cronfa Cofeb Owain Glyndwr, a'u postio i Eirwyn Evans (Trysorydd), 37, Heol Glanyrafon, Pontarddulais, Abertawe SA4 1LT.
Rwy'n bwriadu mynd i'r seremoni ddadorchuddio ar Fedi 16.
Enw
Cyfeiriad :
Cyfeiriad Ebost: Rhif ffôn
Cysylltiad arbennig a hanes Glyndwr
Anfoner at Jill Davies, Erw Hir, Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8JD
Ebost jilldavs@owain-glyndwr-soc.org.uk