The Seal of Owain Glyndwr

Cymdeithas Owain Glyndwr
The Owain Glyndwr Society


Home
Glyndwr's place in Welsh history
Darlith "Owain Glyndwr a Chymru"
Battles for Wales
Membership
The Society's Officers
Bibliography
Map of Wales


The following is a lecture given in Welsh by Professor J Gwynfor Jones of the School of History and Architecture, University of Wales, Cardiff, to the Owain Glyndwr Society at the National Eisteddfod in August 1998 at Bridgend.
An English translation will be published on the website in the near future.

Owain Glyndwr a Chymru

 

Yr Athro J Gwynfor Jones

Ysgol Hanes ac Archaeoleg Prifysgol Cymru Caerdydd

 

 Rhagair

 Traddodwyd sylwedd yr astudiaeth hon i Gymdeithas Owain Glyndwr yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr ym Mhen-coed yn Awst 1998. Anodd yw cynnig unrhyw ddeunydd na damcaniaethau newydd am Owain Glyndwr erbyn hyn gan fod cymaint wedi'i gyhoeddi, yn Gymraeg a Saesneg, amdano ef a'i ymgyrchoedd, yn gyfrolau ysgolheigaidd a phoblogaidd ac erthyglau mewn cylchgronau o bob math. Bodlonwyd yma, felly, ar geisio dwyn ynghyd rhai o'r elfennau pwysicaf yng ngyrfa Glyndwr a'i arwyddocâd yn hanes Cymru. Cyfieithwyd dyfyniadau o'r Saesneg a'r Lladin i'r Gymraeg a chyfeiriwyd at ffynonellau gwreiddiol lle y teimlid bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

Fel y dengys y cyfeirnodau i'r erthygl hon yr wyf yn dra dyledus i awduron sydd eisoes wedi cyhoeddi astudiaethau safonol, sef J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, 1931), Glanmor Williams, Owain Glyndwr (ail arg., Caerdydd, 1993) ac R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr (Rhydychen, 1996). Ceir cyfrolau eraill sy'n cynnwys gwybodaeth eang ar agweddau amrywiol ar y pwnc megis C. Barber, In Search of Owain Glyndwr (Y Fenni, 1998); A. G. Bradley, Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence (Llundain, 1901); R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (ail arg., Rhydychen, 1991); Geoffrey Hodges, Owain Glyn Dwr and the War of Independence in the Welsh Marches (Llundain, 1995); G. A. Jones, Owain Glyndwr (Caerdydd, 1962); ac Ian Skidmore, Owain Glyndwr, Prince of Wales (ail arg., Abertawe, 1996).

Carwn ddiolch i swyddogion Cymdeithas Owain Glyndwr, ac yn arbennig i'r Is-Gadeirydd, Mr J. Lloyd James, am eu cymorth a'u cydweithrediad. Yr wyf hefyd yn dra dyledus i'r Dr E. Wyn James, Adran y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, am fwrw golwg craff a manwl dros yr ysgrif hon ac am ei awgrymiadau gwerthfawr.

 

Wrth gyfeirio at ymgyrchoedd Owain Glyndwr yn 1402 a chymryd Reginald de Grey, arglwydd Rhuthun a Dyffryn Clwyd, yn garcharor, meddai Adda o Frynbuga, croniclydd cyfoes o dras Gymreig, am Owain:

'Fel ail Asyriad, gwialen dicter Duw, cyflawnodd weithredoedd o greulondeb anhygoel â thân a chleddyf.'1

Y mae'r croniclydd yn cynnwys cyfeiriadau eraill tebyg at feiddgarwch y rhyfelwr hwn ac yn ddiamau y mae'n ymwybodol fod y terfysg a gychwynnodd ar 16 Medi 1400 wedi effeithio'n ddifrifol ar Gymru ac wedi amharu'n fawr ar sefydlogrwydd teyrnasiad brenin newydd Lloegr, Harri IV. Parhaodd y rhyfel am bymtheng mlynedd.2 Yr oedd yn ddigwyddiad hynod mewn cyfnod o ddatgymalu cymdeithasol ac economaidd, ac o dyndra ac atgasedd hiliol, a hanes hir iddo. Digwyddodd y rhyfel mewn cyfnod o newidiadau aruthrol yn strwythur cymdeithasol y Dywysogaeth a'r Mers, cyfnod a gawsai effeithiau cymdeithasol ac economaidd pellgyrhaeddol ar orllewin Ewrop. Yn yr Oesoedd Canol diweddar ymledodd y Pla Du a chafwyd y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Lloegr a Ffrainc ynghyd â Gwrthryfel y Gwerinwyr (1381), dan arweiniad Wat Tyler, gwrthryfel Jack Cade yn ne-ddwyrain Lloegr yn 1450 a nifer o wrthryfeloedd tebyg ar y cyfandir.3

 

Daeth Cymru dan oruchafiaeth ac ar drefniant Edward I yn 1282-4. Yn union wedi iddo orchfygu Llywelyn ap Gruffudd gosododd y brenin ardrefniant parhaol, sef y Statutum Walliae, ar Pura Wallia, treftadaeth tywysog brodorol cyntaf ac olaf Cymru. Statud Rhuddlan yw'r enw a roir i'r ardrefniant hwn yn gyffredinol, ac ynddo cyflwynwyd trefn lywodraethol a chyfreithiol a oedd yn gyfaddawd rhwng cyfundrefn weinyddol a chyfreithiol y Cymry a'r Saeson.4 Er i'r uchelwyr, yr haen gymdeithasol newydd a oedd yn egino yn y wlad, drosglwyddo eu teyrngarwch i'r frenhiniaeth a'i gwasanaethu mewn swyddi yn y Dywysogaeth ac mewn rhyfeloedd ar y cyfandir, parhaodd yr anniddigrwydd hiliol rhwng y Cymry a'r Saeson, a dwysawyd y sefyllfa pan ffrwydrodd gwrthryfeloedd mewn gwahanol rannau o'r wlad yn 1287, 1294-5 a 1316. Yr oedd y cyntaf a'r trydydd ohonynt yn derfysgoedd lleol dan arweiniad arglwyddi brodorol, y naill yn Ystrad Tywi a'r llall yn Senghennydd a'r cyffiniau. Amrywiai'r rhesymau am y gwrthryfeloedd hyn, ond tyfodd ymgyrch Madog ap Llywelyn (1294-5) i fod bron yn wrthwynebiad cenedlaethol a gosodwyd cyfyngiadau llym, sef y cyfreithiau cosb, ar y Cymry o ganlyniad i hynny.

Parhaodd yr anfodlonrwydd i ffrwydro'n ysbeidiol drwy'r bedwaredd ganrif ar ddeg, a chrewyd tyndra bygythiol pan lofruddiwyd Henry de Shaldeford, atwrnai'r Tywysog Du yng ngogledd Cymru, ar ei ffordd i Gaernarfon ar Wyl Sain Ffolant yn 1345, ac yn y 1370au pan hawliodd Owain ap Thomas ap Rhodri (Owain Lawgoch), etifedd olaf teyrnas Gwynedd, a'r milwr adnabyddus yn Ffrainc, diroedd ei hen ewythr, sef Llywelyn ap Gruffudd, brawd ei daid Rhodri.5 Yr oedd hi'n ganrif a welodd effeithiau dirdynnol y Pla Du a dadwreiddio sylfeini'r hen gymdeithas diriog, ac yng nghysgod y cestyll codwyd bwrdeistrefi Seisnig breintiedig a fu'n foddion, nid yn unig i wella'r economi ond hefyd i gryfhau'r casineb hiliol a fuasai'n nodwedd barhaol yn y cymunedau brodorol dros y canrifoedd.

 

Yng nghyd-destun yr amgylchiadau hyn pwy, felly, oedd yr arweinydd hwn a fu'n gyfrifol am y rhyfel enwocaf ohonynt i gyd yn 1400 a beth oedd ei gymhellion? Yn ddiamau, Owain Glyndwr, neu Owain ap Gruffudd ap Madog, oedd y cymeriad hanesyddol mwyaf nodedig yn yr Oesoedd Canol os nad, fel y barna rhai, yn holl hanes Cymru. Cyfeiriwyd ato mewn croniclau Seisnig cyfoes ac mewn llyfrau hanes a gyhoeddwyd mewn cyfnodau diweddarach, a dyry William Shakespeare le anrhydeddus iddo yn rhan gyntaf ei ddrama Henry IV. Barwn Cymreig oedd Owain, a chanddo etifeddiaeth diriog ym Mers y gogledd-ddwyrain. Meddai ar diroedd i'r gogledd a'r de o fynyddoedd y Berwyn, yng nghwmwd Glyndwyfrdwy a Chynllaith Owain (rhan ddwyreiniol y cwmwd hwnnw), a gallai olrhain ei achau'n uniongyrchol i hen deuluoedd brenhinol Powys a Deheubarth. Trwy ei dad, Gruffudd Fychan II, cysylltwyd ef â Bleddyn ap Cynfyn, hynafiad tywysogion Powys yn yr unfed ganrif ar ddeg, a thrwy ei fam, Elin, etifeddes Thomas ap Llywelyn o dde Ceredigion, etifeddodd diroedd yng nghymydau Gwynionydd ac Iscoed Uwch Hirwern (i'r gogledd o dref Aberteifi), a hawliai dras anrhydeddus o'r Arglwydd Rhys ap Gruffudd a theulu brenhinol Deheubarth, yn ymestyn yn ôl i Rys ap Tewdwr yn rhan olaf yr unfed ganrif ar ddeg. Trwy ei briodas daliai gysylltiad pell â theulu tywysogion Gwynedd, ac mae'n ddiddorol sylwi bod ei fodryb (sef chwaer ei fam) wedi priodi Tudur ap Goronwy o linach Ednyfed Fychan, prif ddistain Llywelyn ab Iorwerth a sylfaenydd teulu Tuduriaid Penmynydd Môn.

Ynghyd â'r cefndir ysblennydd hwn gallai Glyndwr ymfalchio yn ei safle fel tirfeddiannwr brodorol yn y Mers. Ar ochr ei dad perthynai i rai o'r hen deuluoedd pendefigol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a feddai ar diroedd yn uniongyrchol dan y Goron fel barwniaid Cymreig trwy dir-ddaliadaeth arbennig a elwid yn tir pennaeth.6 Y rhain oedd barwniaid Dinmael ac Edeirnion, a mwynhaent freintiau na chaniateid yn arferol i arglwyddi Cymru. Er nad oedd eu galluoedd materol yn gryf, o ran eu statws a'u grym rhanbarthol mynnent safle cydradd â barwniaid Lloegr. Yn Sycharth ger Llansilin yng Nghynllaith Owain ac i'r de o Lyndyfrdwy a'r Berwyn, y trigai Owain Glyndwr, ac mae olion yr hen gartref i'w canfod yno o hyd. Yn y fangre hynod honno y cynhaliodd y perchennog y berchentyaeth ysblennydd, a chanmolwyd ef gan Iolo Goch a Gruffudd Llwyd am hynny. Meddai Iolo yn un o'i gywyddau mawl i'w lys:

 Anfynych iawn fu yno

Weled na chlicied na chlo,

Na phorthoriaeth ni wnaeth neb,

Ni bydd eisiau budd oseb,

Na gwall, na newyn, na gwarth,

Na syched fyth yn Sycharth.7

 

O fewn cynteddau'r plasty hwnnw y trigai'r pendefig milwrol yn helaethrwydd ei haelioni. Yn ei lencyndod bu Owain Glyndwr dan ofal Robert Fitzalan, iarll Arundel, yng nghastell y Waun a chafodd hefyd dipyn go dda o addysg yn Ysbyty'r Brawdlys yn Westminster a daeth yn hyddysg yn y gyfraith ac yn gyfarwydd â gwr bonheddig eraill a'u diwylliant, y rhan fwyaf ohonynt yn aelodau o deuluoedd Seisnig sylweddol. Priododd Margaret Hanmer, aelod o deulu amlwg ym Maelor Saesneg ar ffiniau gogledd-ddwyrain Cymru. Yr oedd ei thad, Syr Dafydd Hanmer, yn gyfreithiwr amlwg yn un o brif ynadon llysoedd y Goron yn Llundain a'i mam, Angharad ferch Llywelyn Ddu yn hanu o deulu Cymreig amlwg yn arglwyddiaeth y Waun. Mewn cyfnod pan oedd lleygwyr yn araf ddod i'r amlwg ym myd cyfraith a gweinyddiaeth ystyrir Glyndwr yn enghraifft dda o'r uchelwr bonheddig parchus y rhoddwyd iddo'r cyfle yng Nghymru i ddatblygu ei adnoddau y tu hwnt i Glawdd Offa. Felly, ym mlynyddoedd cynnar ei yrfa ni cheid neb mwy nodweddiadol o wr uchelgeisiol cyhoeddus ei oes nag ef, ac ar y pryd anodd fyddai credu y byddai'n fuan yn dod yn arweinydd ymgyrch gwrth-Seisnig. Yr oedd yn deyrngar i'r brenin Rhisiart II ac i Harri Bolingbroke, pan oedd hwnnw'n Ddug Lancaster a chyn iddo dreisio'r Goron yn 1399, a gwasanaethodd ym myddinoedd y ddau ohonynt. Er bod Gruffudd Llwyd, mewn cywydd moliant iddo, yn lled awgrymu nad oedd y berthynas rhwng y Saeson a'r Cymry yn rhy foddhaol, ac y byddai Glyndwr yn ddarpar arweinydd cenedlaethol delfrydol, nid oes dim oll yn ei yrfa gynnar i awgrymu ei fod yn anfodlon ei fyd ym Mers y gogledd-ddwyrain.8

Wedi dweud hynny, mae'n amlwg nad oedd amgylchiadau gwleidyddol yn y Mers yn rhy ffafriol yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. O ganlyniad i ddiffyg etifeddion, absenoledd a'r cythrwfl a ddigwyddasai yn y dyddiau a arweiniodd at ddiorseddu a llofruddio Rhisiart II, yn arbennig yn iarllaeth Caer, cynyddodd yr anniddigrwydd gwrth-Lancastraidd. Nid yw'n wybyddys beth yn hollol oedd tuedd wleidyddol Glyndwr yr adeg honno ond nid oes amheuaeth iddo fod yn deyrngar i Rhisiart hyd y diwedd er bod yna arwyddion o anfodlonrwydd cynyddol ymhlith tenantiaid yn ardaloedd y Mers o amgylch ei ystad.

 

O safbwynt Glyndwr daeth y sefyllfa i ben yn ystod y flwyddyn 1400 pan gafwyd anghydweld rhyngddo ef a'i gymydog Reginald de Grey, arglwydd Rhuthun a Dyffryn Clwyd, arglwyddiaeth a ffurfiwyd yn 1282 ac a roddwyd gan Edward I i hynafiad Grey o'r un enw ag ef a oedd yn Ustus Caer. Yn y bôn ymrafael yn ymwneud â hawliau ar diroedd ffiniol oedd hwn a gellid bod wedi'i setlo'n ddigon heddychlon yn ôl y dulliau a oedd ar gael yn y Mers y dyddiau hynny, ond cynddeiriogwyd Glyndwr gan y gefnogaeth a roddodd Harri IV, y treisiwr Lancastraidd, i'r Arglwydd Grey a'r ensyniadau a wnaeth hwnnw fod Glyndwr wedi anwybyddu'r gorchymyn i ymuno â byddin y brenin yn yr Alban. Sut bynnag, ar 16 Medi y flwyddyn honno, fe'i cyhoeddwyd yng Nglyndwyfrdwy yn Dywysog Cymru ac yn olynydd i Lywelyn ap Gruffudd o Wynedd gan berthnasau agos iddo, sef ei frawd Tudur, ei fab Gruffudd a'i frodyr-yng-nghyfraith Gruffudd a Philip Hanmer a Robert Puleston, deon Llanelwy, cyn iddynt ymosod gyda'u dilynwyr ar gastell Rhuthun. Yn y cwmni hefyd yr oedd Crach Ffinnant, bardd, brudiwr a chynghorwr i Glyndwr a roddodd gefnogaeth foesol, mae'n debyg, i'r fath ddatganiad. Digwyddodd hynny mewn cyfnod o ansefydlogrwydd mawr yn y wlad ac yn wir mewn sefyllfa argyfyngus i'r brenin newydd. Ymledodd y gwrthryfel lleol hwn yn gyflym drwy'r Berfeddwlad, sef Gwynedd Is Conwy, ac yna i Wynedd Uwch Conwy ac ymestyn i barthau'r Deheubarth ac i Fers y de-ddwyrain, ac mae'r ymledu hwnnw ynddo ei hun yn dangos bod llawer o anniddigrwydd yn y wlad.9

 

Gosododd Harri IV ddwy gyfres o ddeddfau gwrth-Gymreig llym yn olynol ar y cymunedau Cymreig yn 1401-2, ac effaith hynny fu cyfyngu'n enbyd ar hawliau a datblygiad yr uchelwyr a dwysáu'r casineb hiliol.10 Er hynny yr oedd gan Glyndwr gysylltiadau teuluol ac ymlynwyr teyrngar a deimlai bwysau amgylchiadau dyrys arnynt ac a oedd yn barod i godi mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin newydd a'r drefn Seisnig yn y Dywysogaeth. I gynorthwyo'r ymgyrch ac i sicrhau ei barhad cawsai gymorth Tuduriaid Penmynydd, sef y ddau frawd Rhys a Gwilym ap Tudur, yr Hanmeriaid ac yn ddiweddarach Harri Dwnn o Gydweli a'r Scudamoriaid, John (a briododd Alice, merch Glyndwr) o Lan-gain (Kentchurch) a Philip o Droddi (Troy) yng ngorllewin sir Henffordd, ymhlith eraill. Yn wir, yn ystod tair blynedd cyntaf y terfysg daeth carfan gref o uchelwyr Cymru o bob rhan o'r wlad i ymuno â'r ymgyrchoedd yn lleol, i godi a threfnu byddinoedd bychain ac i ymosod ar ganolfannau'r Saeson yn y Mers ac yn y Dywysogaeth. Cafwyd buddugoliaeth hynod ym mrwydr Bryn Glas (ger Pyllalai (Pilleth) yn sir Faesyfed), cymerwyd Edmwnd Mortimer (brawd yr enwog Syr Rhosier Mortimer, pedwerydd iarll y Mers a fuasai farw yn 1398 ac a feddai ar hawl mwy cyfreithlon i'r orsedd na Harri IV) yn garcharor, a chanlyniad hynny fu iddo ymgynghreirio â Glyndwr a phriodi Catherine, ei ferch ieuengaf. Yn Ebrill 1402, cymerwyd Reginald Grey yn garcharor ac yn fuan wedyn, yn 1403, troes Harri Hotspur (Percy), mab Harri, iarll Northumberland, o'i blaid. Rhyddhawyd Grey gan i'r brenin gytuno i dalu pridwerth o 11,000 o forciau (marks) amdano (tua £7,300 yn ôl gwerth arian y dyddiau hynny), ond gwrthododd dalu am ryddhau Mortimer am fod gan deulu hwnnw gryfach hawl i'r orsedd nag ef.11

 

Cytundeb Glyndwr â Ffrainc yn 1404, fodd bynnag, oedd uchafbwynt ei wladweinyddiaeth ym mlynyddoedd cynnar ei wrthryfel, a dangosodd fod ei achos yn eithriadol gryf yr adeg honno. Bwriad Siarl VI o Ffrainc, mae'n debyg, oedd defnyddio ymgyrch Glyndwr fel clustog milwrol yn erbyn Lloegr a gorfodwyd y gelyn, Harri IV, i frwydro ar dair ffin -- yn erbyn yr Alban i'r gogledd, Ffrainc i'r dwyrain a Chymru i'r gorllewin.12 Dengys y gefnogaeth ymarferol a gawsai Glyndwr yng Nghymru gan lawer o'i gyd-uchelwyr mai eu arbenigedd hwy mewn materion milwrol gymaint ag un rheswm arall a gyfrifai am y cadernid a ddangoswyd ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Fel y dangosodd R.R.Davies, sef yr awdurdod pennaf ar yrfa Glyndwr, cydlynwyd teuluoedd a ffurfiwyd rhwydwaith o gysylltiadau a roddodd wedd genedlaethol bellach i ymgyrch Glyndwr, ac mae hynny ynddo'i hun yn ffactor bwysig.13 Wedi dweud hynny, terfysgoedd rhanbarthol a ffiwdal a gafwyd mynychaf yn ystod y pedair blynedd cyntaf ac yn fuan wedi hynny y datblygodd ei bolisïau mwyaf arwyddocaol. Heb y cynlluniau cyfansoddiadol ni allai Glyndwr fod wedi ennill fawr ddim, ac unwaith y cawsai'r brenin y cyfle i ymsefydlogi'n derfynol yn ei deyrnas y tebyg yw y byddai'r holl wrthwynebiad effeithiol wedi dod i ben ac wedi'i ddifa'n llawer cynharach. Yr oedd yn ofynnol iddo feithrin agwedd meddwl mwy cadarnhaol a chreadigol; mewn geiriau eraill, er pwysiced y wedd filwrol ymarferol, yr oedd angen fframwaith gweinyddol pwrpasol i greu a chynnal tywysogaeth Gymreig newydd os oedd y gwrthryfel i lwyddo i lwyr drechu'r brenin.

 

Daw hyn oll a ni at ail ran y drafodaeth ac at bolisiau ymarferol Glyndwr a'r modd y defnyddiodd ef yr ymwybod Cymreig a'r daroganau i weithredu ei gymhellion. Yn ôl traddodiad proffwydol yr Oesoedd Canol meddai'r Cymry ar hanes ysblennydd a ymestynnai'n ôl i'r canrifoedd cynnar, a disgwylid y byddai arweinydd cenedlaethol yn codi ryw ddydd i ryddhau'r genedl o'r gorthrwm yr oedd yn ei ddioddef dan awdurdod y Saeson. Y mae traddodiad o'r fath yn hanfodol bwysig mewn unrhyw ystyriaeth o bwysigrwydd Glyndwr yn ei oes ei hun a hyd yn oed yn y dyddiau presennol. Fel y cyfeiriwyd eisoes, y gynghrair â Ffrainc oedd prif sylfaen gwleidyddiaeth Glyndwr, ac o 1404 hyd tua 1408 ei brif amcan oedd ceisio gosod canllawiau i'r Dywysogaeth arfaethedig. O safbwynt ennill cynghreiriaid, cryfhawyd ei safle trwy ei gyfeillgarwch newydd (ac annisgwyl) â Mortimer a Harri Percy (brawd-yng-nghyfraith Mortimer a laddwyd ym mrwydr Amwythig yng Ngorffennaf 1403), a chadarnhawyd ymhellach ei alluoedd milwrol wedi iddo gipio cestyll Aberystwyth a Harlech yn 1404. Daethai arweinwyr ac offeiriaid yr eglwys i fod yn gefnogwyr pybyr iddo, megis John Trefor, Esgob Llanelwy, Lewis Byford, esgob Bangor, a Gruffudd Young, Archddiacon Meirionnydd, Canghellor Glyndwr a'i brif gynghorwr. Dyma'i brif weinyddwyr a chynrychiolwyr a bu eu cymorth yn foddion iddo ddyfeisio yn 1406 ei gynllun aruchel ynglyn â rhyddhau'r eglwys yng Nghymru o feddiant archesgobaeth Caergaint. Cynyddodd ei hunanhyder fwyfwy erbyn hynny: fe'i cyhoeddodd ei hun yn ffurfiol yn Dywysog Cymru, cymerodd arfbais tywysogion Gwynedd, dyfeisiodd ei Sêl Fawr a'i Sêl Gyfrin, a chynhaliodd senedd ym Machynlleth gyda phedwar cynrychiolydd o bob cwmwd a'i cefnogai ynghyd â chenhadon o Ffrainc a Chastile, a senedd arall, fe ddywedir (er nad oes tystiolaeth lawn i brofi hynny), yn Harlech. Ym Machynlleth cynhaliai ei lys gyda'r holl ddefodau ffurfiol a heb fod yn annhebyg o ran trefn i'r hyn a arferid yn senedd Lloegr.

 

Gyda'r darpariaethau mawreddog hynny a'i ymwybyddiaeth lwyr o feddylfryd ei genedl dros y canrifoedd aeth Glyndwr ati i lunio'i bolisiau. O gofio am gynnwys a thueddfryd y cynlluniau hynny, mae'n amheus a fyddent wedi llwyddo, hyd yn oed pe byddai'r amgylchiadau wedi parhau yn ffafriol iddo. O safbwynt ymarferol, fodd bynnag, methiant fu'r cyfan. Wedi dweud hynny mae'r hyn y ceisiodd ei gyflawni yn allweddol bwysig i ddeall teithi ei feddwl ar y pryd mewn perthynas â'r hyn a allasai fod wedi cael ei sylweddoli yn gyfansoddiadol dros ganrif cyn ei ddyddiau ef pe bai amgylchiadau wedi bod yn fanteisiol iddo. Yn ychwanegol at sefydlu'r senedd -- ac mae'r pedwar cynrychiolydd yn adlais pendant o'r patrwm a sefydlodd Hywel Dda pan fu'n cofnodi cyfreithiau Cymru yn Hendy-gwyn ar Daf yn y ddegfed ganrif -- aeth Glyndwr ati, mewn dull uchelgeisiol, i lunio dau bolisi, sef yr hyn a safai y tu ôl i'r Yndeintur Triphlyg yn 1405 ac, i raddau'n fwy ymarferol, yr hyn a elwir yn Bolisi Pennal yn y flwyddyn ganlynol. Mae'n rhaid inni roi ystyriaeth ychydig manylach i'r ddau gynllun yma yn eu tro.

 

Yn gyntaf, trown at yr Yndeintur Triphlyg a luniwyd ar 28 Chwefror 1405 rhwng Glyndwr, Edmwnd Mortimer a iarll Northumberland.14 Yn waelodol y bwriad oedd cynllwynio i ddiorseddu Harri IV, a diben y cynllwyn oedd rhannu Lloegr a Chymru'n dair rhan rhwng y cynghreiriaid pe bai hynny'n llwyddo. Byddai Percy yn derbyn Lloegr i'r gogledd o afon Trannon yn cynnwys deuddeg sir; byddai Edmwnd Mortimer yn derbyn gweddill Lloegr a Glyndwr yn meddiannu Cymru (y Dywysogaeth a'r Mers) a thiroedd eang yng ngorllewin Lloegr yn ymestyn yn ddwfn i ganolbarth y wlad honno. Ymestynnai'r tiroedd hynny o aber afon Hafren at borth ogleddol dinas Caerwrangon, at yr 'Onennau Meigion' ar y briffordd rhwng Bridgnorth a Kinver (i'r gorllewin o Stourbridge yng ngorllewin canolbarth Lloegr), oddi yno at darddiad afon Trannon ac wedyn ymhellach i'r gogledd at darddiad afon Merswy, ac o'r fan honno i aber yr afon ger Cilgwri.

 

Ar ryw ystyr yr oedd y cynllwyn yn wleidyddol anaeddfed ac anymarferol gan nad oedd hi'n debyg y byddai strwythur o'r fath, pe bai wedi cael ei weithredu, wedi llwyddo gan nad oedd fawr o sefydlogrwydd yn y cysylltiadau gwleidyddol rhwng y barwniaid â'i gilydd fel y dangosodd llawer ysgarmes wleidyddol yn hanes Lloegr ymhlith y pendefigion a'r barwniaid cyn ac wedi hynny. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid cyfaddef fod cynnwys y cynllwyn, o safbwynt Glyndwr, yn un sgilgar ac allweddol bwysig os oedd am geisio ymestyn cylch ei awdurdod a sylweddoli'r proffwydoliaethau. Y mae hyd a lled ei awdurdod arfaethedig yn gyson â'r mythau proffwydol. Cyfeiriodd Trioedd Ynys Prydain at dair teyrnas Prydain a'r gred mai rhannau isaf afon Hafren unwaith oedd y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yr oedd 'Onennau Meigion', y cyfeiriwyd atynt yn y cytundeb, rhwng Caerwrangon a Bridgnorth yn cynrychioli'r fan, yn ôl y bardd Myrddin, lle byddai'r Eryr Mawr (y 'mab darogan' neu'r 'gwaredwr cenedlaethol') yn paratoi ei fyddin i wrthwynebu'r Sacsoniaid, a Meigion ei hun yn faes honedig lle, yn ôl traddodiad, y llwyddasai'r brenin Cadwallon o Wynedd i drechu Sacsoniaid Northumbria a'u brenin Edwin. Yn yr Yndeintur hawliodd y tri chynllwynydd, eto yng nghyd-destun y traddodiad proffwydol, mai hwy fyddai'n cael eu cydnabod fel llywodraethwyr sofran Britanniae Majoris, sef y 'Brydain Fwy'. Er mor anymarferol, o safbwynt Glyndwr, fyddai ceisio gweithredu cynllwyn o'r fath, yr oedd yr hyn a arfaethid yn seicolegol bwysig oherwydd gwelai ei hun yn etifedd i'r hen frenhinoedd Brythonaidd arwrol ac yn ymgorfforiad o'r traddodiad proffwydol. Nid oedd y dimensiwn hwn i feddylfryd yr oes yn anghyffredin oblegid yr oedd i broffwydoliaeth ym Mhrydain ac ar y cyfandir hanes maith yn ymestyn yn ôl i'r canrifoedd cynnar, ac yr oedd y ddelfryd yng Nghymru i barhau am ganrif hyd at esgyniad Harri Tudur i'r orsedd. Prif gynheiliaid y traddodiad oedd Sieffre o Fynwy a ysgrifennodd ei gronicl hynod Historia Regum Britanniae yn y ddeuddegfed ganrif a'r beirdd proffesiynol trwy gydol yr Oesoedd Canol.15 Hwy oedd ceidwaid y meddylfryd hanesyddol yn yr Oesoedd Canol a'r rhai a ganfyddai y posibiliadau yng ngalluoedd arweinyddol sawl ffigur milwrol yng Nghymru a fyddai'n gallu rhyddhau'r genedl o'r gorthrwm a ddioddefwyd. O ddarllen llythyrau Glyndwr sydd wedi goroesi at arglwyddi tylwythol Iwerddon a Robert III, brenin yr Alban, mae'n amlwg iddo ddehongli'i hun mewn cyd-destun o'r fath. 'Rydym yn eich hysbysu', meddai hefyd mewn llythyr Lladin at Harri Dwnn, 'y gobeithiwn wared cenedl y Cymry rhag caethiwed ein gelynion Seisnig sydd, dros gyfnod maith, wedi ein gormesu ni a'n hynafiaid.'16 Ac meddai R. R. Davies eto gan bwysleisio'r elfen frudiol:

Tynnodd ar fytholeg a oedd yn hynafol ac yn Brydeinig; ond bu iddo ef a'i gynghorwyr gyfeirio eu golygon tuag at amgylchiadau a oedd yn hollol Gymreig -- nid adfeddiannu coron Llundain, nid adfer coron Prydain unedig, ond creu Cymru annibynnol, yn wleidyddol, eglwysig, diwylliannol ac addysgol.

Troi'r myth hwn yn bolisi solet ymarferol a buddiol i Gymru a wnaeth i ymdrechion Glyndwr ymddangos mor aeddfed ag apelgar.17

 

Beth am yr ail bolisi, sef Polisi Pennal a luniwyd ar 31 Mawrth 1406? Yn y pentref bychan hwnnw ar aber afon Dyfi ar arfordir deheuol Meirionnydd -- man canolog i'r ardaloedd mwyaf teyrngar i'r Tywysog -- y cytunodd Glyndwr, yn ystod cyfnod y Rhwyg Fawr yn y Babaeth (1378-1415) i drosglwyddo'i deyrngarwch o'r Fatican yn Rhufain i Bab Avignon yn Ffrainc. Golygai hynny dorri cysylltiad yn llwyr ag Innocent VII a chefnogi Benedict XIII. Plesiodd hynny Siarl VI yn fawr, wrth gwrs, ond, os oedd y cytundeb i lwyddo, disgwylid i Benedict ildio i rai o ofynion sylfaenol Glyndwr, sef caniatáu iddo'r hawl i greu rhanbarth eglwysig yng Nghymru a fyddai'n annibynnol ar archesgobaeth Caergaint a lywodraethasai'r Eglwys dan y Normaniaid yng Nghymru o'r ddeuddegfed ganrif ymlaen. Yr oedd esgobaeth Tyddewi i gael ei hadfer i'w safle 'urddasol gwreiddiol' fel eglwys archesgobol ac i weithredu awdurdod, nid yn unig dros y tair esgobaeth Gymreig arall, ond hefyd, yr esgobaethau cynorthwyol, neu suffragan, cyfagos yng ngorllewin Lloegr, sef esgobaethau Caerwysg, Caerfaddon, Henffordd, Caerwrangon a Chofentri a Chaerlwytgoed. Yr oedd yna ryw gymaint o sail hanesyddol i'r hawliau hynny oherwydd dengys rhai ffynonellau mytholegol fod yr esgobaethau Seisnig hyn wedi bod dan awdurdod esgobaeth Tyddewi o ddyddiau Dewi Sant hyd at y pumed olynydd ar hugain iddo, sef Samson o Dol. Sut bynnag, er mai digon bregus oedd dadlau'r hawl honno, o geisio'i gosod mewn cyd-destun hanesyddol ymarferol, nid oedd yn hollol ddiystyr. Ymhellach, yr oedd pabaeth Avignon i ddarparu esgobion ac offeiriaid Cymraeg i'r esgobaethau a'r bywiolaethau yng Nghymru ac i gytuno y dylid sefydlu dau goleg prifysgol (studia generalia), y naill yn ne Cymru a'r llall yn y gogledd, er na chyfeiriwyd at y mannau lle y byddent yn cael eu sefydlu. Cyhoeddwyd hefyd fod cyllidoedd eglwysig (yn cynnwys yr esgobaethau Seisnig) i gael eu trosgwyddo i'r Eglwys yng Nghymru a bod eglwysi plwyf a'u tiroedd a feddiannwyd gan fynachdai a cholegau yn Lloegr i gael eu hailgyflwyno a'u hadfer i'r noddwyr gwreiddiol. Yn ddiamau yr oedd y polisi hwn, er iddo fod ychydig yn ffansiol mewn rhai cyfeiriadau, yn dangos craffter gwleidyddol pur aeddfed ar ran Glyndwr, a'r tebyg yw mai ei gynghorwyr -- Gruffudd Young yn arbennig -- oedd yr athrylith y tu ôl i'r cyfan.

 

O edrych ar y pecyn ymddengys fel pe bai ei gymhellion yn eglwysig yn unig, ond nid felly yr oedd hi.18 Y mae'r bwriad i sefydlu Tyddewi yn brif ganolfan eglwysig Cymru a sefydlu dau goleg Prifysgol yn gamau gwleidyddol sylweddol ymlaen. Nid diwygiwr eglwysig a diwylliannol yn unig sy'n arddangos ei alluoedd cynhenid ym Mholisi Pennal eithr gwleidydd a gweledydd digon hir ei ben i fedru cynnig (a dyfynnu geiriau, wedi'u cyfieithu, un o haneswyr y presennol),

'asesiad gwleidyddol defnyddiol o anghenion ymarferol llywodraeth a allasai fod yn annibynnol yn y bymthegfed ganrif' a chyflwyno 'elfen o gynllunio beiddgar, creadigol a llawn dychymyg'.19

Ei fwriad oedd llunio fframwaith gwleidyddol llawer mwy na chynllun unffurf i ddiwygio'r Eglwys. Wedi dweud hynny, sylweddolodd Glyndwr fod cael Eglwys annibynnol yn hanfodol i gyflawni'r amcan hwnnw, ac y byddai'r Eglwys honno'n gweithredu fel partner cydradd mewn gwladwriaeth annibynnol. Ohoni deuai offeiriaid, a'r uchaf a'r galluocaf yn eu plith yn ffurfio'r gwasanaeth gweinyddol (sifil), a byddai incymau'r Eglwys yn foddion i gyllido'r llywodraeth. Ar ben hynny byddai'r prifysgolion yn darparu'r addysg angenrheidiol ar gyfer gweision sifil ac offeiriaid. Mewn oes pan oedd nifer o brifysgolion yn cael eu sefydlu yn Ewrop, Lloegr a'r Alban ystyriai Glyndwr ei bod hi'n hanfodol i ddilyn yr un patrwm yng Nghymru er mwyn sicrhau gweinyddwyr o'r ansawdd gorau a gwella safon addysg yr offeiriadaeth yr un pryd. Deallai yr hyn a eilw Syr Glanmor Williams yn 'ddichonolrwydd sefyllfa wleidyddol ei gyfnod',20 ac mae'n bosibl fod y cysylltiad agos rhwng Glyndwr a'i dad-yng-nghyfraith, y cyfreithiwr hynod Syr Dafydd Hanmer, wedi cyfeirio'i olygon at yr hyn a ddigwyddasai yn Ffrainc y cyfnod hwnnw, sef troi tiriogaethau ffiwdalaidd yn dywysogaethau sofran de jure.21

 

Er cymaint oedd ymdrechion Glyndwr i osod sylfaen tywysogaeth frodorol gref, o ran ymarferoldeb y fenter, methiant fu'r cyfan. Ni allai anghofio'r sefyllfa beryglus o ansicr yr oedd ynddi: methiant y cynghrair â Ffrainc i gyflawni unrhyw beth milwrol o bwys ar dir Cymru a Lloegr, a cholli cefnogaeth ymhlith nifer cynyddol o uchelwyr -- rhai ohonynt yn bwerus yn eu broydd -- na welsai fod yr ymgyrchu mewn gwirionedd yn cyrraedd unman. Hefyd, yr oedd y lleihad mewn adnoddau ariannol a milwrol, a dyrchafiad Harri o Drefynwy, y Tywysog Seisnig ifanc, i safle o flaenoriaeth fel tactegydd ac arweinydd milwrol o fri a'i lwyddiant ef dros ddeng mlynedd olaf y rhyfel i drechu'r gwrthwynebiad i'r Goron, yn cynnwys adennill cestyll Aberystwyth (1408) a Harlech (1409), prif gadarnleoedd y gwrthryfel, yn ffactorau o bwys. Yn ystod y gwarchae ar Harlech lladdwyd Edmwnd Mortimer a chipiwyd gwraig Glyndwr ynghyd â dwy o'i ferched a thair o'i wyresau. Collodd hefyd nifer o'i arweinwyr; trodd rhai at y brenin a sicrhau eu pardwn yr un pryd, a dienyddiwyd rhai amlwg eraill megis Philip Scudamore, Rhys Ddu o Aberteifi a Rhys Tudur o Benmynydd, Môn. Lladdwyd Tudur, ei frawd, ym mrwydr Pwll Melyn yn 1405, carcharwyd ei fab Gruffudd am oes wedi'r frwydr honno, ac ym mrwydr Branham Moor yng ngogledd Lloegr, collodd ei gynghreiriaid, arglwydd Bardolph a iarll Northumberland, eu bywydau. Am Glyndwr ei hun diflannodd oddi ar wyneb y ddaear yn 1415. Efallai iddo dreulio ei ddyddiau olaf yng nghartref ei fab-yng-nghyfraith, John Scudamore a'i wraig Alice, merch Glyndwr, ym mhlasty Monnington Straddel yn Ystrad Deur (Golden Valley) yn sir Henffordd, ond nid oes sicrwydd am hynny. O gofio am ei apêl barhaol i feddylfryd y Cymry efallai mai gadael i'r dirgelwch barhau ynglyn ag amgylchiadau ei ddyddiau olaf a'i farwolaeth sydd orau.

Yn y cronicl a luniwyd yn 1422 yn olrhain y gwrthryfel ychwanegir ar y diwedd:

yddaeth owain mewn difant y gwyl vathe yn y kynhayaf. O hynny allan ni wybvwyd i ddifant rrann vawr a ddywaid i varw y brudwyr a ddywedant na bv.22

[Aeth Owain i ymguddio ar Wyl Fathew yn y cynhaeaf [Medi 1415]. O hynny ymlaen ni wyddys ble roedd ei guddfan. Dywed llawer iawn ei fod wedi marw; dywed y gweledyddion nad felly bu.]

 

Er i'r brwydro fod yn fethiant milwrol yn sicr ni ellir cytuno bod hynny'n wir am gymynrodd parhaol Glyndwr. Daw hyn â ni at adran olaf yr astudiaeth hon; sef effaith yr ymgyrch dros dymor hir. Mae'r effeithiau byr-dymor yn bur amlwg, oherwydd achoswyd cryn ddifrod mewn sawl ardal yn y Dywysogaeth, yn arbennig yn y canolfannau trefol, a thystiwyd yn huawdl i hynny mewn ffynonellau gweinyddol a chroniclau: 'achosodd gymaint o ddiffeithwch', meddai Syr John Wynn o Wedir yn hanes ei deulu a gyfansoddwyd tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg, 'fel y tyfai glaswair yn y farchnadfa yn Llanrwst ac y porai ceirw yn y fynwent'.23 Disgrifiad dramatig dros ben; ond nid felly fu hi ym mhobman yng Nghymru oherwydd arbedwyd rhai ardaloedd, megis Penfro a Chasgwent a rhannau isaf y de-ddwyrain a'r de-orllewin rhag gorfod dioddef rhyferthwy mwyaf enbyd yr ymosodiadau. Sut bynnag, canfyddir gwir bwysigrwydd Owain Glyndwr a'i ryfel annibyniaeth yn ymateb cenedlaethau diweddarach i'w yrfa fel gelyn ffyrnig i frenin Lloegr, Edrychwyd arno gan rai sylwebyddion, yn cynnwys rhai o Gymru, fel gwrthryfelwr gwrthnysig, a digon negyddol, fel y gellid disgwyl, oedd barn croniclwyr Seisnig amdano er i Shakespeare ystyried fod rhai o'i nodweddion dewinol yn ddigon cymeradwy. Er bod George Owen o'r Henllys, sir Benfro, yn deyrngar i'r Tuduriaid ac yn bybyr dros gynnal heddwch a threfn, ni chredai fod Glyndwr yn uchelwr a gododd yn erbyn Harri IV ar hap a damwain eithr yn arweinydd a chymhellion anrhydeddus ganddo.24 Fodd bynnag, casgliad Dr David Powel, yr hynafiaethydd enwog, yn 1584 oedd ei fod wedi ei hudo i baradwys ffwl' gan y proffwydoliaethau.25 Yn nhridegau ein canrif ni yr oedd Syr John Edward Lloyd, yn yr astudiaeth safonol gyntaf o'r rhyfel yn 1931, yn sicr ei farn mai 'arwr cenedlaethol' oedd Glyndwr yng ngolwg y Cymry: 'Gall yn hollol weddus', meddai ar ddiwedd ei gyfrol, 'gael ei alw'n dad cenedlaetholdeb Cymru fodern.'26 Datganiad braidd yn ysgubol a dweud y lleiaf na ellir ei gyfiawnhau'n llwyr efallai er bod cymhelliad gwladgarol Lloyd wrth wneud y fath ddatganiad, mae'n rhaid cyfaddef, yn ddigon dealladwy. Aeth yr Athro R. T. Jenkins ati i geisio diffinio 'cenedligrwydd' a 'chenedlaetholdeb' mewn erthygl ar y pwnc yn Sociological Review yn 1935. O'i gyfieithu dywed:

Mae cenedligrwydd wrth reswm yn sail i genedlaetholdeb. Ond mae cenedlaetholdeb yn rhywbeth mwy...y mae'n ddatganiad bwriadol o genedligrwydd ac yn ymdrech ymwybodol i roi yn ychwanegol rhyw olwg allanol a ystyrir...yn hanfodol i fudd a lles cenedligrwydd.27

 

Mae'n rhaid i haneswyr wahaniaethu rhwng 'ymwybyddiaeth genedlaethol' a 'chendlaetholdeb' ac, yn ein cyd-destun ni, geisio cymhwyso'r ddau gysyniad i amgylchiadau a meddylfryd Cymru yn y bymthegfed ganrif. Beth tybed a olygai natio (cenedl) i Lyndwr a'i ddilynwyr? Byddai'r anllythrennedd dybryd yn rhwystr i dwf unrhyw ymwybyddiaeth o genedlaetholdeb wleidyddol, fel y dehonglid hi yn y Gymru fodern, ymhlith ei gefnogwyr yn haenau isaf y gymdeithas. Wedi dweud hynny, mae'n ddiamau bod yr ymdeimlad o arwahanrwydd hiliol, a wnaed yn gwbl eglur ym mharhad iaith a diwylliant y genedl, ei 'fframwaith genhedlig' (kindred structure), a'i balchder yn ei threftadaeth hanesyddol godidog, yn elfennau hanfodol ym meddylfryd y Cymry, o ba safle bynnag yn y gymdeithas. Cafwyd diffiniad anuniongyrchol o'r ymwybod hiliol hwnnw tua chanrif yn gynharach pan ddadleuai Llywelyn ap Gruffudd mewn llythyr at Edward I yn 1279, yn ystod y gwrthdaro cyfreithiol ynglyn â thir rhyngddo ef a'r brenin a Gruffudd ap Gwenwynwyn o Dde Powys. Am fod gan y Cymry eu cyfreithiau a'u harferion eu hunain fel y Gwasgwyniaid (a oedd dan lywodraeth Lloegr), y Gwyddelod a'r Saeson, meddent, dylent gael 'mwynhau eu cyfraith eu hunain' ac y dylai ef, fel tywysog, feddu ar yr hawl i 'weithredu ei gyfraith a'i arferion ei hun fel y gwna'r cenhedloedd eraill yn eu hiaith eu hunain'.28 Mewn cyd-destun gwahanol yr oedd hynny'n fater a godwyd yng nghynhadledd Constance (1414-18), tua diwedd y terfysgoedd, pan geisiodd cynrychiolydd Lloegr yno yn 1417 ddiffinio cenedl fel 'pobl a oedd yn wahanol i eraill o ran eu rhwymau carenyddol (cognatio), eu cydlyniad (collectio) a'u gwahaniaethau, megis eu hiaith arbennig (diversitas)'. Yn y cyd-destun hwnnw dadleuwyd, y dylai brenin Lloegr, fel arglwydd ffiwdal, gael pum pleidlais annibynnol a fyddai'n cynrychioli'r nationes particulares, sef y Saeson, y Cymry, y Gwyddelod, y Gwasgwyniaid a phobl Cernyw.29

 

Yn yr Oesoedd Canol cysylltid y cysyniad o genedl, yn ei hanfod, â'r iaith, nid yn yr ystyr o fod yn gyfrwng llefaru'n unig, ond hefyd yr ymdeimlad o fyw mewn cymunedau clos, yn cydrannu gwerthoedd cyffredin ac yn ymdeimlo â'r angen i gynnal a thrysori hanes a thras urddasol gyffredin. Er cymaint y rhaniadau cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru ynghyd â pharhad teyrngarwch i wahanol froydd ac unedau cenhedlig, yn ddiwylliannol yr oedd y wlad y tu allan i'r cymunedau Seisnig ac Eingl-Normanaidd yn unedig ac yr oedd trigolion y brodoriaethau'n ymwybodol o'r hunaniaeth gynhenid Gymreig honno a gynhaliwyd, yn yr Oesoedd Canol diweddar, mewn cyfnod pan oedd cyfreithiau Cymru'n edwino, gan yr iaith Gymraeg a'i threftadaeth. Y mae'n rhaid i haneswyr, fel y dywed yr Athro J. E. Caerwyn Williams, fod yn fwy ymwybodol o 'genedlaetholdeb pobl' na 'chenedlaetholdeb gwladwriaethol' yn yr Oesoedd Canol.30 Y beirdd oedd prif gynheiliaid y traddodiadau Cymreig cynhenid hyn ac, fel canlyniad, ychwanegodd Glyndwr ddimensiwn gwleidyddol newydd at yr ymdeimlad cysyniadol o undod hiliol gyda'r bwriad o sefydlu gwladwriaeth Gymreig annibynnol.31 Yn y cyd-destun hwnnw yr oedd cynnal y traddodiadau hanesyddol yn hanfodol i sylweddoli dyheadau cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar y bymthegfed ganrif. Meddai R. R. Davies:

Fel dosbarth, y mae hunaniaeth genedlaethol yn fater o amgyffrediad gymaint ag yw o barchu sefydliadau...Yng nghymdeithas yr Oesoedd Canol gallai ei arddangos ei hun hefyd mewn ymwybyddiaeth o dras deuluol gyffredin unrhyw bobl, mewn cred ar y cyd mewn person arbennig o fytholeg hanesyddol a phroffwydoliaeth, mewn meithrin cysylltiad â bro ac mewn iaith gyffredin a theimladau cyffredin.32

 

Yn y cyswllt hwnnw mae lle Glyndwr fel arwr mewn llên gwerin dros y canrifoedd (fel y dangosodd Elissa Henken mewn cyfrol hynod ddiddorol o'i heiddo yn lled ddiweddar)33 a'r ffaith ei fod wedi suddo i'r isymwybod Cymreig, ynghyd â'r cyfeiriadau ato ym marddoniaeth darogan y bymthegfed ganrif hefyd, yn allweddol bwysig ac yn arwydd pendant o barhad y traddodiad am yr 'arwr cyfareddol' a'i yrfa 'bryfoclyd o annelwig ac anniffiniadwy' chwedl yr Athro T. Jones Pierce.34 Cyfeiriwyd yn y farddoniaeth honno at Arthur, Cadwaladr ac Owain a fyddai'n dychwelyd i waredu'r genedl yn y blynyddoedd cyn dyfod Harri Tudur i'r orsedd, a'r posibilrwydd yw mai ef, sef Glyndwr, oedd y trydydd ohonynt. Ymddengys tair elfen yn yr hyn a adawodd Glyndwr ar ei ôl, sef casineb diarbed tuag at y Saeson, yn arbennig y rhai a drigai yn y bwrdeisdrefi; y gred y dylai Cymru gael ei llywodraethu'n wlad unedig gan un o blith prif deuluoedd brenhinol y genedl, a'r symbyliad a roddwyd i sicrhau parhad proffwydoliaeth fel arf bwrpasol yn y bymthegfed ganrif i gwrdd ag anghenion dyfnaf cenedl orthrymedig.

 

Fe gymerodd beth amser i lenorion Cymru gydnabod Owain Glyndwr yn arwr cenedlaethol. Yn ei ragair i Hanes Owen Glyndwr: Tywysog Cymru gan Thomas Pennant, credai Syr O. M. Edwards fod ysbryd Glyndwr eto yn y tir adeg yr adfywiad diwylliannol a gwleidyddol cenedlaethol ar drothwy'r ugeinfed ganrif.35 Rhai degawdau wedi hynny meddai'r diweddar Athro Gwyn A. Williams :

'...os oedd yna unrhyw amheuaeth ynglyn ag ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig, hyd yn oed cenedlaetholdeb, cyn y gwrthryfel, nid oedd dim o'r fath beth wedi hynny...'.36

Aeth rhagddo i bwysleisio fod 'ymdeimlad cenedlaethol' i'w ganfod, nid yn unig yn yr iaith ond, yn fwy arwyddocaol, yn yr ymdeimlad o hanes a thraddodiad a berthynai i bendefigaeth Gymreig gaeedig a chyfyngedig. Er cymaint oedd yr ymdeimlad hwnnw, fel y dangosodd hanes y wlad dros y canrifoedd, nid oedd undod mewn teyrngarwch i genedl ac i arweinydd cenedlaethol yn nodwedd amlwg yng Nghymru, ac yng nghyfnod y terfysgoedd mae'n bwysig cofio bod gan Glyndwr ei elynion yn ogystal â'i gyfeillion ymhlith ei gyd-uchelwyr. Sut bynnag, credir bod yr ymdeimlad o berthyn yng nghyd-destun y traddodiad hanesyddol yn hanfodol bwysig yn y cyswllt hwn. Rhoddodd Glyndwr bwyslais ar urddas cenedl, ei hynafiaeth yn ymestyn yn ôl dros 800 mlynedd a'i hetifeddiaeth ddilychwin.37 Efallai mai hynny, i raddau pell, sy'n cyfrif am y cyfoeth o lên gwerin sydd wedi goroesi ynglyn ag ef mewn gwahanol rannau o'r wlad ac sy'n rhoi iddo briodoleddau cenedlaethol yn ddwfn ym meddyliau'r Cymry. Yr hyn sy'n wirioneddol hynod, fodd bynnag, yw fod amcanion Glyndwr bellach, ar ddiwedd y mileniwn hwn a ninnau ar fin cofio 600 mlynedd dechrau'r rhyfel, wedi cael eu sylweddoli: sef sefydlu'r Brifysgol ffederal genedlaethol yn 1893, yr Eglwys ddatgysylltiedig, yn 1914, ac ar 18 Medi 1997 y bleidlais dros y Cynulliad Cymreig. Er na fyddai Glyndwr, ddim mwy na llawer o Gymry twymgalon eraill heddiw, yn cytuno â'r cyfyngu fydd ar awdurdod y Cynulliad hwnnw o safbwynt darparu deddfwriaeth, y tebyg yw y byddai yn ei gymeradwyo fel sefydliad a fydd yn gosod canllawiau cadarn ar gyfer y dyfodol. Yn ddiamau, o safbwynt ei ddelfrydau, gellid cymharu'r arweinydd hwn â Robert Bruce a William Wallace yn yr Alban a Jeanne d'Arc yn Ffrainc. Meddai Shakespeare yn ei ddrama fawr Henry IV (y Rhan Gyntaf), gan roi'r geiriau yng ngenau Glyndwr ei hun wrth iddo gyfeirio at annaturioldeb achlysur ei eni a'r arwyddion a ymddangosodd y pryd hynny.

Yr oedd 'the front of heaven...', meddai, yn llawn o 'fiery stars', ac ychwanegodd yn syber:

These signs have marked me extraordinary

And all the courses of my life do show

I am not in the role of common men.38

 Yn y cyswllt arbennig hwn y mae'r hen chwedl a edrydd Elis Gruffydd, y 'milwr o Galais', yn ei gronicl o hanes y byd am yr ymgom rhwng Abad Glyn-y-groes a Glyndwr wrth iddynt grwydro'n blygeiniol ar fynyddoedd y Berwyn, yn berthnasol: 'Rydych yn rhodio'n gynnar iawn,' meddai Glyndwr wrth yr abad: 'O na,' oedd yr ateb, 'y chi sydd wedi codi'n rhy gynnar -- o gan mlynedd.'39 Amcan ateb yr abad oedd nodi nad oedd amser Glyndwr wedi dyfod eto i gyflawni holl ddyheadau ei genedl ac, yn wir, cynhwysa geiriau'r abad gerydd amserol gan fod Glyndwr yn ei ddydd, yn ei farn ef, wedi methu sicrhau'r hyn a ddisgwylid gan y brudwyr, sef Coron Lloegr. Sut bynnag, yn ysbryd yr uchelwr glew ac arwrol hwnnw o Sycharth hyderwn y sylweddolir geiriau'r hen abad y bydd ysbryd Glyndwr eto yn rhodio yn y tir ac y gosodir sylfeini ar gyfer llywodraeth y Gymru newydd ym mlwyddyn sefydlu'r Cynulliad ac ar drothwy cofio chwe chan mlynedd dechreuad y rhyfel.

 

1 E. Maunde Thompson (gol.), Chronicon Adae de Usk A. D. 1377-1421 (Llundain, 1904), tt. 78, 247.

2 Ynglun â defnyddio'r termau 'rhyfel' neu 'ymgyrch' wrth ddisgrifio'r digwyddiadau milwrol rhwng 1400 a 1415 gw. C. Thomas, 'O gwymp Llywelyn hyd at oes y Tuduriaid', yn D.M. Lloyd (gol.), Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru (1950), tt. 62, 67-9.

3 Ceir nifer o astudiaethau am Owain Glyndwr a'r gwrthryfel, a'r pwysicaf yw J. E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, 1931); R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr (Rhydychen, 1996); Glanmor Williams, Owain Glyndwr (ail arg., Caerdydd, 1993); Ian Skidmore, Owain Glyndwr, Prince of Wales (ail arg., Abertawe, 1996).

4 R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (ail arg., Rhydychen, 1991), tt. 63-70.

5 A. D. Carr, Owen of Wales: The End of the House of Gwynedd (Caerdydd, 1991); idem, 'Owain Lawgoch: yr Etifedd Olaf', yn G. H. Jenkins (gol.), Cof Cenedl: Ysgrifau ar Hanes Cymru, V (Llandysul, 1990), tt. 1-27.

6 A. D. Carr, 'An aristocracy in decline: the native lords after the Edwardian conquest', Cylchgrawn Hanes Cymru, V (2), 1970, 103-29; idem, 'The barons of Edeyrnion, 1282-1485', Cylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, IV, 1961, 187-93, 289-301.

7 D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), X, t. 48.

8 H. Lewis, T. Roberts a I. Williams (goln), Cywyddau Iolo Goch ac Eraill (Caerdydd, arg. 1972), XLII, tt. 125-7.

9 Am y cefndir i fanylion y gwrthryfel yn lleol gw. J. E. Lloyd, Owen Glendower, a R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr.

10 I. Bowen (gol.), The Statutes of Wales (Llundain, 1908), tt. 31-6.

11 R. R. Davies, op. cit., tt. 107-8, 112, 179-80, 230, 233, 266, 341.

12 Ibid., tt. 169-70; T. Matthews (gol.), Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910), tt. 32-9, 75-82; Glanmor Williams, Owain Glyndwr, t. 38.

13 R. R. Davies, 'Owain Glyn Dwr and the Welsh squirearchy', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1968 (ii), 150-69.

14 Matthews, op. cit., tt.116-17; R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr, tt. 166-71.

15 Glanmor Williams, 'Proffwydoliaeth, prydyddiaeth a pholitics yn yr Oesoedd Canol', Taliesin, XVI, 1968, 31-9; A. D. Carr, Owen of Wales, tt. 87-94.

16 Matthews, op. cit., t. 105.

17 R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr, t. 326. Gw. hefyd tt. 156-63.

18 Ibid., tt. 171-3. Gw. hefyd Glanmor Williams, The Welsh Church from Conquest to Reformation (Caerdydd, 1962), tt. 223-5; Matthews, op. cit., tt. 42-54, 85-99; J. R. Gabriel, 'Wales and the Avignon papacy', Archaeologia Cambrensis, (cyfres 7, cyf. iii), 1923, 70-86.

19 Glanmor Williams, Welsh Church from Conquest to Reformation, t. 224.

20 Ibid., t. 215.

21 J. le Patourel, 'Edward III and the kingdom of France', History, XLIII, 1958, 173-89; E. Perroy, 'Feudalism or Principalities in fifteenth-century France', Bulletin of the Institute of Historical Research, XX, 1947, 181-5.

22 J. E. Lloyd, Owen Glendower, tt. 144-5, 154; R. R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dwr, tt. 326, 377 (sy'n cyfeirio at F. Devon (gol), Issues of the Exchequer, Henry III -- Henry IV (Record Commission, 1847), tt. 321, 327); C. Barber, In Search of Owain Glyndwr (Y Fenni, 1998), tt. 144-63; J. Y. W. Lloyd, History of Powys Fadog, I (Llundain, 1881), tt. 211-16.

22 J. Wynn, History of the Gwydir Family and Memoirs, gol. J. Gwynfor Jones (Llandysul, 1990), t. 51.

23 G. Owen, 'The Dialogue of the Government of Wales', yn H. Owen (gol.), The Description of Penbrokshire, III (Llundain, 1906), t. 36.

24 D. Powel, The Historie of Cambria [1584] (Amsterdam/Efrog Newydd, arg. 1969), t. 386.

25 J. E. Lloyd, Owen Glendower, t. 146.

26 R. T. Jenkins, 'The development of nationalism in Wales', The Sociological Review, XXVII, 1935, 163; J. E. Caerwyn Williams, 'Twf cenedlaetholdeb yng Nghymru'r Oesoedd Canol', yn Gwinllan a Roddwyd, gol. Dewi Eurig Davies (Llandybie, 1972), tt. 60-2. Gw. hefyd J. E. Caerwyn Williams, 'Cenedlaetholdeb yng Nghymru'r Oesoedd Canol', yn Cof Cenedl, VIII, 1993, tt. 28-31.

27 J. Conway Davies (gol.), The Welsh Assize Roll, 1277-1284 (Caerdydd, 1940), t. 266; T. Jones Pierce, Medieval Welsh Society, gol. J. Beverley Smith (Caerdydd, 1972), t. 30.

28 A. O. H. Jarman, 'Wales and the Council of Constance', Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd, XIV (Rhan iii), 1951, 220-2; Aubrey Gwynn, 'Ireland and the English nation at the Council of Constance', Proceedings of the Royal Irish Academy, XLV (Adran C, rhif 8), 1940, 200-2.

29 J. E. Caerwyn Williams, 'Cenedlaetholdeb yng Nghymru'r Oesoedd Canol', yn Cof Cenedl, tt. 1-8.

30 Am dwf syniadaeth yn yr Oesoedd Canol, gw. D. Myrddin Lloyd, 'Meddwl Cymru yn yr Oesoedd Canol', Efrydiau Athronyddol, XIII, 1950, 13-18; J. Beverley Smith, 'Gwleidyddiaeth a diwylliant cenedl 1282-1400', ibid., XXXVIII, 1975, 55-74.

31 R. R. Davies, 'Law and national identity in thirteenth-century Wales', yn R. R. Davies et al. (goln), Welsh Society and Nationhood: Historical Essays Presented to Glanmor Williams (Caerdydd, 1984), t.52; idem, The Revolt of Owain Glyn Dwr, tt. 172-3.

32 Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyndwr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996); R. R. Davies, Owain Glyn Dwr: Hanes a Chof Gwlad (Darlith Eisteddfodol Prifysgol Cymru yn Eisteddfod Bro Colwyn, 1995).

33 J. E. Lloyd a R. T. Jenkins (gol.), Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t. 651.

34 T. Pennant, Hanes Owen Glyndwr: Tywysog Cymru (Caernarfon, dim dyddiad), tt. 9-16.

35 A. J. Roderick (gol.), Wales Through the Ages, I (Llandybie, ail arg. 1965), t. 183; Gwyn A. Williams, 'Twf hanesyddol y syniad o genedl yng Nghymru', Efrydiau Athronyddol, XXIV, 1961, 23-4.

36 Glanmor Williams, Owain Glyndwr, tt. 59-60.

37 William Shakespeare, Henry IV, Rhan I (Act 3, Golygfa 1, ll. 38-40).

38 LlGC, Llsgr. Mostyn 158, 285b. Gw. J. Gwenogvryn Evans (gol.), Report on Manuscripts in the Welsh Language, I, Rhan i (Llundain, 1898), t. 221

 

Darlith gan yr Athro John Gwynfor Jones, Ysgol Hanes ac Archaeoleg, Prifysgol Cymru Caerdydd, i Gymdeithas Owain Glyndwr yn Eisteddfod Genedlaethol Penybont, Awst 1998.

© Cymdeithas Owain Glyndwr 1998